Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hinsawdd, Natur a Llesiant

Cross Party Group on Climate, Nature and Wellbeing

 

 

17:00 – 18:00

05.02.2024

 

Cyfarfod ar-lein dros Zoom

Virtual meeting over Zoom

1. Croeso a chyflwyniad

Welcome and introduction

Delyth Jewell AS 

 

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Minutes of the last meeting 

Delyth Jewell AS

3. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Annual General Meeting

 

4. Lina Yassin, Ymchwilydd Hinsawdd, Sefydliad Rhyngwladol yr Amgylchedd a Datblygu

 

5. Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru 

Youth Climate Ambassadors for Wales 

Alfred Williamson

 

6. Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

Any other business and date of next meeting 

Delyth Jewell AS

 

Yn bresennol:Antonia Fabian (AF), Oliver John (OJ), Michelle Bales (MB), Rachel Lee (RL), Rajsri Saikrishnan (RS), Lina Yassin (LY), Alfred Williamson (AW), Gwenda Owen (GO), Delun Gibby (DG), Molly Hucker (MH)

Aelodau o’r Senedd a oedd yn bresennol: Delyth Jewell AS (DJ)

Ymddiheuriadau:Kathryn Speedy (KS), Peredur Owen Griffiths AS (POG)

 

Cofnodion:

1. Croeso a chyflwyniad / Welcome and introduction

Cyflwynwyd RL o Living Streets.

2. Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol/Annual General Meeting

 

Cafodd DJ ei henwebu fel cadeirydd gan AF, a eiliwyd gan GO.

Cafodd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid eu henwebu fel cyd-gadeiryddion gan AF, a eiliodd DJ.

Cafodd Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru ei enwebu fel ysgrifenyddiaeth, a eiliwyd gan AW.

3. Lina Yassin, Ymchwilydd Hinsawdd, Sefydliad Rhyngwladol yr Amgylchedd a Datblygu

 

Cafwyd cyflwyniad gan LY ar y gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi gwledydd lleiaf datblygedig gyda Sefydliad Rhyngwladol yr Amgylchedd a Datblygu.

Mae gwledydd lleiaf datblygedig yn cwmpasu'r 46 gwlad dlotaf yn fyd-eang, oherwydd mynegeion gwahanol. Y gwledydd hyn hefyd yw'r rhai mwyaf agored i newid hinsawdd.

Cynrychiolir y gwledydd lleiaf datblygedig gan gadeirydd sy'n cael ei enwebu bob dwy flynedd i wthio am ganlyniadau hinsawdd mwy uchelgeisiol a chyfiawn yn negodiadau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a negodiadau COP. Mae canlyniadau'r cyfarfodydd hyn, fel cytundeb PARIS, yn llywio'r hyn a wneir ar lefel polisi cenedlaethol. I'r gwledydd lleiaf datblygedig, mae cysyniad cyfiawnder hinsawdd yn dra phwysig iddynt gan fod newid hinsawdd yn cael effaith anghymesur arnynt, e.e. yn y gwledydd hyn y digwyddodd 69 y cant o'r marwolaethau yn sgil tywydd eithafol.

Y gwledydd hyn yw'r rhai tlotaf hefyd, felly ychydig iawn o adnoddau sydd ganddynt i oresgyn trychinebau amgylcheddol. Byddai angen $200 biliwn i’w heconomïau barhau heb gael effaith negyddol gan newid hinsawdd. Dim ond 10 y cant o'r angen hwnnw sydd wedi'i ddiwallu hyd yn hyn.

Rhoddodd LY yr enghraifft bod llifogydd yn Nîl yn Sudan bob blwyddyn, gyda miloedd o gartrefi a bywydau yn cael eu cymryd. Mae'r llifogydd parhaus hyn yn golygu na all y wlad adfer.

Nid yw gwledydd mwy datblygedig yn dioddef cymaint o effeithiau newid hinsawdd eto, felly mae'n bwysig edrych ar wledydd eraill i ddeall anghydraddoldebau a phwysigrwydd cyfiawnder hinsawdd. Gall pleidleiswyr wneud gwahaniaeth i bolisi byd-eang, a dyna pam mae mor bwysig pleidleisio a gwthio i wneud gwahaniaeth.

Anogodd LY y grŵp i edrych ar feysydd eraill lle y gallent wneud gwahaniaeth, megis lledaenu gwybodaeth neu godi arian.

Gofynnodd DJ beth y gallai gwladwriaethau is-genedlaethol ei wneud gan eu bod yn tueddu i gael eu cynrychioli’n genedlaethol yn unig

Atebodd LY y gallant ymuno â grwpiau dwyochrog a all gael effeithiau cyflymach gan eu bod yn hepgor biwrocratiaeth systemau amlochrog.

Holodd MH a all y derminoleg ‘gwlad leiaf datblygedig’ fod yn broblemus gan ei fod yn cael ei ddiffinio i raddau helaeth gan gymdeithasau cyfalafol y gorllewin, a hefyd a oedd LY o'r farn bod gwneud iawn yn beth da.

Atebodd LY fod dadl fawr ynghylch y derminoleg ond mai diffiniad y Cenhedloedd Unedig yw'r gwledydd lleiaf datblygedig. Mae ‘de’r byd’ yn gyfeiriad daearyddol ac felly gall fod yn ddryslyd pan gaiff ei ddefnyddio i gwmpasu gwledydd sydd yn y gogledd yn ddaearyddol ac sydd hefyd â chanolbleidiaeth y gorllewin.

Wrth ateb ail hanner ymholiad MH, ychwanegodd LY nad yw gwneud iawn yn ymwneud ag ‘achub’ gwledydd lleiaf datblygedig, nac yn achos elusen ychwaith. Mae'r gwledydd hyn yn gwybod sut i frwydro yn erbyn newid hinsawdd ond nid oes ganddynt yr adnoddau, a dyna lle y mae cyfiawnder hinsawdd yn dod i mewn.

Gofynnodd RL a yw’r cenhedloedd yr effeithir arnynt yn gallu negodi am yr hyn y mae arnynt ei angen, yn hytrach na chael eu gorchymyn ynghylch yr hyn y byddant yn gwario'r arian arno.

Atebodd LY fod y rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer newid hinsawdd yn dod o'r Gronfa Hinsawdd Werdd ac yn aml mae angen i wledydd lywio llawer o fiwrocratiaeth i gael swm bach o arian. Ar ben hynny, bydd 10 y cant o'r cyllid ar gyfer ffioedd rheoli'r Cenhedloedd Unedig, yn hytrach na mynd yn uniongyrchol i'r prosiect.

Gofynnodd OJ a oes gan LY fyfyrdodau ar yr hyn sy'n gweithio'n dda wrth addysgu am yr hinsawdd mewn ysgolion.

Atebodd LY mai’r hyn sy’n bwysig yw peidio â'i gwneud yn rhy ragnodol a chael enghreifftiau go iawn a chyfredol. Dylai pobl ifanc hefyd deimlo eu bod yn gallu cymryd rhan yn fwy adeiladol. Mae angen i ni gael cenhedlaeth sy'n deall cyfiawnder hinsawdd fel egwyddor allweddol, a dim ond pan fydd gennym arweinwyr sydd â pholisi sy'n ystyriol o'r hinsawdd yn ddiofyn y bydd hyn yn digwydd. Cododd LY gynhadledd 'Teens and Teachers take on Climate Change' fel enghraifft gadarnhaol o gynnwys pobl ifanc wrth lywio addysg hinsawdd.

Gofynnodd AW pa nodau oedd fwyaf effeithiol i grwpiau fel y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid eu cael.

Dywedodd LY y dylai galw am ostwng allyriadau’n gyflym fod y nod cyntaf ac y dylai ariannu gwledydd lleiaf datblygedig lle y pennir y blaenoriaethau gwariant gan y gwledydd hynny fod yr ail.

4. Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru / Youth Climate Ambassadors for Wales  

 

Cafwyd diweddariad gan AW nad oedd y ddeiseb a oedd yn galw am gydnabyddiaeth gyfreithiol i ffoaduriaid hinsawdd yn mynd yr holl ffordd i'r senedd ond ei bod wedi codi llawer o ymwybyddiaeth o'r mater. Mae'r grŵp hefyd wedi colli sawl aelod ac felly y brif flaenoriaeth yw cynyddu nifer yr aelodau.

Bydd y linc i'r ffurflen gais yn cael ei rannu gyda’r cofnodion. 13-25 yw’r ystod oedran ar gyfer ymuno â'r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid.

5. Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf / Any other business and date of next meeting

 

Cyflwynodd DJ ddarn o ddeddfwriaeth aelod yn y Senedd ar syniadau ar gyfer bil sicrwydd hinsawdd y dylid cael darpariaeth benodol yn y cwricwlwm i fod yn siarad am newid hinsawdd ar draws pob disgyblaeth. Cafodd hyn ei basio a phleidleisiwyd drosto gan fwyafrif yr aelodau o'r Senedd.

Caiff dyddiad y cyfarfod nesaf ei bennu’n ddiweddarach a'i anfon gyda'r cofnodion.

6. Cofnodion y cyfarfod diwethaf / Minutes of the last meeting

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.